Exodus 37 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

2Ac a’i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

3Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.

4Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.

5Ac a osododd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.

6Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.

7Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa;

8Un ceriwb ar y pen o’r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi.

9A’r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.

10Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

11Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.

12Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.

13Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.

14Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd.

15Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.

16Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i ffiolau, a’i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.

17Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un.

18A chwech o geinciau yn myned allan o’i ystlysau: tair cainc o’r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall.

19Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren.

20Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a’i flodau.

21A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono.

22Eu cnapiau a’u ceinciau oedd o’r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.

23Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur.

24O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a’i holl lestri.

25Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un.

26Ac efe a’i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

27Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt.

28Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.

29Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a’r arogl-darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help