Genesis 46 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beer-seba, ac a aberthodd ebyrth i DDUW ei dad Isaac.

2A llefarodd DUW wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

3Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW, DUW dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.

4Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn: Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.

5A chyfododd Jacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef.

6Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aifft, Jacob, a’i holl had gydag ef:

7Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gydag ef i’r Aifft.

8A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft, Jacob a’i feibion: Reuben, cynfab Jacob.

9A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.

10A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanëes.

11Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.

12A meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.

13Meibion Issachar hefyd; Tola, a Phufa, a Job, a Simron.

14A meibion Sabulon; Sered, ac Elon, a Jaleel.

15Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.

16A meibion Gad; Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.

17A meibion Aser; Jimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia; Heber a Malchiel.

18Dyma feibion Silpa, yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.

19Meibion Rahel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin.

20Ac i Joseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.

21A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.

22Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.

23A meibion Dan oedd Husim.

24A meibion Nafftali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Silem.

25Dyma feibion Bilha, yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith dyn oll.

26Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Jacob i’r Aifft, yn dyfod allan o’i lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thrigain.

27A meibion Joseff, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft, oedd ddau enaid: holl eneidiau tŷ Jacob, y rhai a ddaethant i’r Aifft, oeddynt ddeg a thrigain.

28Ac efe a anfonodd Jwda o’i flaen at Joseff, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen.

29A Joseff a baratôdd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd.

30A dywedodd Israel wrth Joseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto.

31A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi.

32A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt.

33A phan alwo Pharo amdanoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith?

34Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd-dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help