1Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y rhai a enwir yn bennaf o’r cenhedloedd, y rhai y daeth tŷ Israel atynt!
2Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi?
3Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais;
4Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o’r praidd, a’r lloi o ganol y cut;
5Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd;
6Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â’r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.
7Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir.
8Tyngodd yr ARGLWYDD DDUW iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd.
9A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw.
10Ei ewythr a’i cyfyd i fyny, a’r hwn a’i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau, Taw; am na wasanaetha cofio enw yr ARGLWYDD.
11Oherwydd wele yr ARGLWYDD yn gorchymyn, ac efe a dery y tŷ mawr ag agennau, a’r tŷ bychan â holltau.
12A red meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.
13O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder?
14Ond wele, mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, genedl; a hwy a’ch cystuddiant chwi, o’r ffordd yr ewch i Hamath, hyd afon y diffeithwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
