Tobit 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 2

1Wedi i mi ddyfod adref i’m tŷ fy hun, a rhoddi i mi Anna fy ngwraig, a Thobeias fy mab; ar ŵyl y Pentecost, yr hon yw uchel ŵyl y saith wythnos, y gwnaethpwyd i mi ginio mawr.

2Eithr pan eisteddais i fwyta, a gweled amlder o fwyd, mi a ddywedais wrth fy mab, Dos, a chyrch pa ddyn tlawd bynnag a gaffech o’n brodyr ni, ac sydd yn meddwl am yr Arglwydd; ac wele, mi a arhosaf amdanat.

3Eithr efe a ddaeth drachefn, ac a ddywedodd wrthyf, Fy nhad, y mae un o’n cenedl ni wedi ei dagu, a’i fwrw allan i’r heol.

4Yna cyn profi dim bwyd, mi a neidiais ar fy nhraed, ac a’i dugum ef i dŷ, nes machludo haul.

5Ac wedi dychwelyd ohonof, mi a ymolchais, ac a fwyteais fy mara yn athrist;

6Gan feddwl am broffwydoliaeth Amos, y modd y dywedasai efe, Eich uchel wyliau a droir yn alar, a’ch llawenydd oll yn gwynfan.

7A mi a wylais. A phan fachludodd yr haul, mi a euthum, ac a wneuthum fedd, ac a’i cleddais ef.

8A’m cymdogion a’m gwatwarent, gan ddywedyd, Onid ofna hwn eto ei angau? am y peth yma y ffodd efe unwaith; ac wele, y mae efe eilchwyl yn claddu’r meirw.

9Ac ar y nos honno mi a ddychwelais o gladdu, ac a gysgais, wedi ymhalogi, wrth bared y neuadd, yn wynebnoeth;

10Heb wybod fod adar y to yn aros yn y fagwyr, y rhai a fwriasant dail twym yn fy llygaid, fel yr oeddynt yn agored; ac felly y daeth y rhuchen ar fy llygaid: ac er fy myned at feddygon, ni wnaethant i mi ddim lles. Ac Achiacarus a’m porthodd i hyd onid euthum i Elymais.

11Ac Anna fy ngwraig a weithiai mewn nydd-dai gwragedd.

12A phan aeth hi â’r gwaith adref i’r perchenogion, hwy a dalasant iddi ei chyflog, gan roddi myn yn ychwaneg:

13Yr hwn, pan ddaeth i’m tŷ i, a ddechreuodd frefu; yna y gofynnais iddi, O ba le y daeth y mynnyn? ai lladrad yw efe? dod ef eilchwyl i’w berchenogion: canys nid cyfreithlon yw bwyta lladrad.

14A hithau a ddywedodd, Ei roi ef a wnaethpwyd i mi gyda’m cyflog. Eto nid oeddwn i yn ei chredu, ond erchi ei roddi ef i’w berchenogion; ac yr oedd yn waradwydd gennyf drosti: eithr hi a’m hatebodd, gan ddywedyd, Mae dy elusennau di, a’th gyfiawnderau? wele, y maent amlwg oll gyda thi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help