1A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar hugain.
2A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch DUW; enw yr hon a elwir ar enw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.
3A hwy a osodasant arch DUW ar fen newydd; ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahïo, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.
4A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch DUW; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch.
5Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr ARGLWYDD, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.
6A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch DUW, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.
7A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd wrth Ussa: a DUW a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch DUW.
8A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r ARGLWYDD rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres-ussa, hyd y dydd hwn.
9A Dafydd a ofnodd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr ARGLWYDD ataf fi?
10Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr ARGLWYDD ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed-edom y Gethiad.
11Ac arch yr ARGLWYDD a arhosodd yn nhŷ Obed-edom y Gethiad dri mis: a’r ARGLWYDD a fendithiodd Obed-edom, a’i holl dŷ.
12A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a fendithiodd dŷ Obed-edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch DUW. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch DUW o dŷ Obed-edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.
13A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr ARGLWYDD chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion.
14A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr ARGLWYDD; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain.
15Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, trwy floddest, a sain utgorn.
16Ac fel yr oedd arch yr ARGLWYDD yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr ARGLWYDD; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.
17A hwy a ddygasant i mewn arch yr ARGLWYDD, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD.
18Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y lluoedd.
19Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun.
20Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg.
21A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr ARGLWYDD, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr ARGLWYDD, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr ARGLWYDD.
22Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir.
23Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.