Jeremeia 43 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr ARGLWYDD eu DUW, am y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD eu DUW ef atynt, sef yr holl eiriau hyn:

2Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a’r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr ARGLWYDD ein DUW ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno.

3Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i’n lladd, ac i’n caethgludo i Babilon.

4Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i drigo yn nhir Jwda:

5Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda;

6Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia.

7Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD; fel hyn y daethant i Tapanhes.

8A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd,

9Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda;

10A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt.

11A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a’r rhai sydd i gaethiwed, â chaethiwed; a’r rhai sydd i’r cleddyf, â’r cleddyf.

12A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a’u llysg hwynt, ac a’u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch.

13Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help