Y Salmau 132 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 132Caniad y graddau.

1O ARGLWYDD, cofia Dafydd, a’i holl flinder;

2Y modd y tyngodd efe wrth yr ARGLWYDD, ac yr addunodd i rymus DDUW Jacob:

3Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;

4Ni roddaf gwsg i’m llygaid, na hun i’m hamrantau,

5Hyd oni chaffwyf le i’r ARGLWYDD, preswylfod i rymus DDUW Jacob.

6Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed.

7Awn i’w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.

8Cyfod, ARGLWYDD, i’th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.

9Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.

10Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog.

11Tyngodd yr ARGLWYDD mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc.

12Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.

13Canys dewisodd yr ARGLWYDD Seion: ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.

14Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi.

15Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.

16Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant.

17Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i’m Heneiniog.

18Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help