Y Salmau 103 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 103Salm Dafydd.

1Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.

2Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:

3Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:

4Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:

5Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.

6Yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll.

7Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.

8Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd.

9Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.

10Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni.

11Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.

12Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.

13Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef.

14Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.

15Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.

16Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.

17Ond trugaredd yr ARGLWYDD sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder i blant eu plant;

18I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.

19Yr ARGLWYDD a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth.

20Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.

21Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd ef; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.

22Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help