Diarhebion 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y neb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.

2Gŵr da a gaiff ffafr gan yr ARGLWYDD: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.

3Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.

4Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.

5Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.

6Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt.

7Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.

8Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.

9Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.

10Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.

11Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.

12Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.

13Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.

14Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.

15Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.

16Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.

17Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.

18Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth.

19Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr.

20Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.

21Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg.

22Ffiaidd gan yr ARGLWYDD wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef.

23Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

24Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.

25Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a’i llawenha hi.

26Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt.

27Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr.

28Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help