Y Salmau 77 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 77I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.

1A’m llef y gwaeddais ar DDUW, â’m llef ar DDUW; ac efe a’m gwrandawodd.

2Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

3Cofiais DDUW, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.

4Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru.

5Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.

6Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.

7Ai yn dragywydd y bwrw yr ARGLWYDD heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?

8A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?

9A anghofiodd DUW drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.

10A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.

11Cofiaf weithredoedd yr ARGLWYDD; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.

12Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.

13Dy ffordd, O DDUW, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n DUW ni?

14Ti yw y DUW sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.

15Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela.

16Y dyfroedd a’th welsant, O DDUW, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.

17Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.

18Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.

19Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.

20Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help