Daniel 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi.

2Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf DDUW â mi.

3Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, a’i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

4Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llys.

5Gwelais freuddwyd yr hwn a’m hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a’m dychrynasant.

6Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd.

7Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o’u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.

8Ond o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a’m breuddwyd a draethais o’i flaen ef, gan ddywedyd,

9Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, a’i ddehongliad.

10A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely; Edrych yr oeddwn, ac wele bren yng nghanol y ddaear, a’i uchder yn fawr.

11Mawr oedd y pren a chadarn, a’i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd i’w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear.

12Ei ganghennau oedd deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef, a phob cnawd a fwytâi ohono.

13Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely, ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd,

14Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a’r adar o’i ganghennau.

15Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda’r bwystfilod yng ngwellt y ddaear.

16Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno.

17O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a’i rhydd i’r neb y mynno efe, ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion.

18Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef, oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.

19Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a’i feddyliau a’i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na’i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i’th gaseion, a’i ddehongliad i’th elynion.

20Y pren a welaist, yr hwn a dyfasai, ac a gryfhasai, ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd, ac oedd i’w weled ar hyd yr holl ddaear;

21A’i ddail yn deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau:

22Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear.

23A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef:

24Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin.

25Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y’th borthant fel eidionau, ac a’th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb a fynno.

26A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu.

27Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.

28Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin.

29Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon.

30Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi?

31A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.

32A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a’th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y’th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb y mynno.

33Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, a’i ewinedd fel ewinedd adar.

34Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd, a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

35A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio ei law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur?

36Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch a’m hoywder a ddychwelodd ataf fi, a’m cynghoriaid a’m tywysogion a’m ceisiasant; felly y’m sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol.

37Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, a’i lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help