Genesis 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau, ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.

2A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymerth Sara.

3Yna y daeth DUW at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymeraist, a hithau yn berchen gŵr.

4Ond Abimelech ni nesasai ati hi: ac efe a ddywedodd, ARGLWYDD, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?

5Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac yng nglendid fy nwylo, y gwneuthum hyn.

6Yna y dywedodd DUW wrtho ef, mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th ateliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.

7Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gŵr; oherwydd proffwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddiau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti.

8Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.

9Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.

10Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?

11A dywedodd Abraham, Am ddywedyd ohonof fi, Yn ddiau nid oes ofn DUW yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig.

12A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.

13Ond pan barodd DUW i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed amdanaf fi, Fy mrawd yw efe.

14Yna y cymerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn.

15A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.

16Ac wrth Sara y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll sydd gyda thi, a chyda phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.

17Yna Abraham a weddïodd ar DDUW: a DUW a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forynion; a hwy a blantasant.

18Oherwydd yr ARGLWYDD gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help