1 Timotheus 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau, tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd; fel na chabler enw Duw, a’i athrawiaeth ef.

2A’r rhai sydd â meistriaid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bod yn credu, ac yn annwyl, yn gyfranogion o’r llesâd. Y pethau hyn dysg a chynghora.

3Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â’r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb;

4Chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; o’r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod,

5Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw.

6Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd.

7Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith.

8Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.

9Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.

10Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.

11Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra.

12Ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion.

13Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda;

14Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist:

15Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi;

16Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen.

17Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau:

18Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu;

19Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol.

20O Timotheus, cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat, gan droi oddi wrth halogedig ofer-sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gamenwir felly:

21Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Gras fyddo gyda thi. Amen.

Y cyntaf at Timotheus a ysgrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prifddinas Phrygia Pacatiana.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help