Sechareia 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Erchwch gan yr ARGLWYDD law mewn pryd diweddar law; a’r ARGLWYDD a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes.

2Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a’r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.

3Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys ARGLWYDD y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda, ac a’u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel.

4Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.

5A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr ARGLWYDD gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch.

6A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, ac a’u gwrandawaf hwynt.

7Bydd Effraim hefyd fel cawr, a’u calonnau a lawenychant fel trwy win: a’u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr ARGLWYDD.

8Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant.

9A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y’m cofiant, a byddant fyw gyda’u plant, a dychwelant.

10A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt.

11Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith.

12Nerthaf hwynt hefyd yn yr ARGLWYDD, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help