1Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr ARGLWYDD: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl.
2Molwch yr ARGLWYDD â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant.
3Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus.
4Canys uniawn yw gair yr ARGLWYDD; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb.
5Efe a gâr gyfiawnder a barn: o drugaredd yr ARGLWYDD y mae y ddaear yn gyflawn.
6Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef.
7Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau.
8Ofned yr holl ddaear yr ARGLWYDD: holl drigolion y byd arswydant ef.
9Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.
10Yr ARGLWYDD sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd.
11Cyngor yr ARGLWYDD a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.
12Gwyn ei byd y genedl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
13Yr ARGLWYDD sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.
14O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.
15Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.
16Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.
17Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.
18Wele, y mae llygad yr ARGLWYDD ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;
19I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn.
20Ein henaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD: efe yw ein porth a’n tarian.
21Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
22Bydded dy drugaredd, ARGLWYDD, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
