Eseciel 35 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a phroffwyda yn ei erbyn,

3A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i’th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i’th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch.

4Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD.

5Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt:

6Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, mi a’th wnaf di yn waed, a gwaed a’th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a’th ddilyn.

7Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a’r hwn a ddychwelo.

8Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â’i laddedigion: yn dy fryniau, a’th ddyffrynnoedd, a’th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â’r cleddyf.

9Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a’th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

10Am ddywedyd ohonot, Y ddwy genedl a’r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi, a nyni a’i meddiannwn; er bod yr ARGLWYDD yno:

11Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ôl dy genfigen, y rhai o’th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel y’m hadwaener yn eu mysg hwynt, pan y’th farnwyf di.

12A chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i’w difa.

13Ymfawrygasoch hefyd â’ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i’m herbyn: mi a’u clywais.

14Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a’th wnaf di yn anghyfannedd.

15Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, oherwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help