1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mi a ddygais y bobl hyn o gaethiwed, ac a roddais iddynt fy ngorchmynion trwy fy ngweision y proffwydi; y rhai ni wrandawent, ond diystyru fy nghynghorion i a wnaethant.
2Y fam a’u dug a ddywed wrthynt, Ewch ymaith, blant: canys gweddw ydwyf, a gwrthodedig.
3Mi a’ch megais chwi trwy lawenydd: ond mi a’ch collais chwi trwy alar a thrymder: canys chwi a bechasoch gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac a wnaethoch y peth oedd ddrwg yn ei olwg ef.
4A pha beth a wnaf i chwi y pryd hyn? gweddw ydwyf, a gwrthodedig; ewch i ffordd, fy mhlant, a gofynnwch drugaredd gan yr Arglwydd.
5A minnau, O dad, a alwaf arnat ti am dystiolaeth yn erbyn mam y plant hyn, y rhai ni chadwent fy nghyfamod,
6Fel y dygech hwy i waradwydd, a’u mam i anrhaith, fel na byddo epil ohonynt hwy.
7Gwasgarer hwynt ar led ymhlith y cenhedloedd; bwrier eu henwau ymaith oddi ar y ddaear: canys diystyrasant fy nghyfamod.
8Gwae dydi, Assur, yr hwn a guddi ynot yr anghyfiawn: tydi bobl anwir, cofia beth a wneuthum i Sodom a Gomorra.
9Eu tir a droed yn briddellau pyg, ac yn dyrrau o ludw: felly hefyd y gwnaf i’r sawl ni’m gwrandawant, medd yr Arglwydd hollalluog.
10Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth Esdras; Dywed i’m pobl y rhoddaf iddynt deyrnas Jerwsalem, yr hon a roeswn i Israel.
11Eu gogoniant hwy hefyd a gymeraf i mi, a rhoddaf i’r rhai hyn bebyll tragwyddol, y rhai a ddarparaswn iddynt hwy.
12Hwy a gânt bren y bywyd yn ennaint o arogl peraidd: ni lafuriant, ac ni ddiffygiant.
13Cerddwch, a chwi a dderbyniwch; gweddïwch am ychydig ddyddiau, fel y byrhaer hwynt: paratowyd y deyrnas i chwi eisoes; gwyliwch.
14Cymer yn dystiolaeth y nef a’r ddaear: canys myfi a ddrylliais y drwg, ac a wneuthum y da: canys byw wyf fi, medd yr Arglwydd.
15Tydi fam, cofleidia dy blant, a mag hwynt trwy lawenydd: gwna eu traed yn sicr fel colofn: canys tydi a ddewisais i, medd yr Arglwydd.
16A’r meirw a atgyfodaf fi o’u lleoedd, ac a’u dygaf allan o’r beddau: canys adnabûm fy enw yn Israel.
17Tydi fam y plant, nac ofna: canys dewisais di, medd yr Arglwydd.
18A danfonaf i’th gynorthwyo Esay a Jeremi fy ngwasanaethwyr, wrth gyngor y rhai y sancteiddiais ac y darperais i ti ddeuddeg pren, yn llawn o amryw ffrwythau;
19A’r un rhifedi o ffynhonnau yn llifeirio o laeth a mêl; a saith fynydd mawrion yn dwyn rhos a lili, â’r rhai y llanwaf dy blant â llawenydd.
20Gwna gyfiawnder i’r weddw, barn i’r amddifad, dyro i’r tlawd, amddiffyn yr amddifad, dillada’r noeth,
21Iachâ’r drylliedig a’r gwan, na watwar y cloff, amddiffyn yr anafus, a gad i’r dall ddyfod i olwg fy nisgleirdeb.
22Cadw hen ac ieuanc o fewn dy gaerau.
23Pa le bynnag y caffech y marw, cymer hwynt, a chladd; ac mi a roddaf i ti yr eisteddle bennaf yn fy atgyfodiad.
24Gorffwys, O fy mhobl, a chymer dy esmwythdra: canys dy lonyddwch di a ddaw.
25Mag dy blant, ti famaeth dda, a chryfha eu traed hwynt.
26Ni dderfydd am neb o’th wasanaethwyr a roddais i ti: canys ceisiaf hwynt o fysg dy rifedi di.
27Na ddiffygia: canys pan ddêl dyddiau blinder ac ing, eraill a wylant ac a alarant, ond tydi a fyddi lawen a diwall.
28Y cenhedloedd a genfigennant wrthyt; er hynny nis gallant wneuthur dim yn dy erbyn di, medd yr Arglwydd.
29Fy nwylo i a’th wasgoda di, fel na welo dy blant uffern.
30Ymlawenha, tydi fam, gyda’th blant; canys mi a’th achubaf di, medd yr arglwydd.
31Cofia dy blant, y rhai sydd yn cysgu: canys mi a’u dygaf hwynt o gyrrau’r ddaear, a byddaf drugarog wrthynt: canys trugarog ydwyf, medd yr hollalluog Arglwydd.
32Cofleidia dy blant, hyd oni ddelwyf i ddangos trugaredd iddynt: canys y mae fy ffynhonnau yn myned trosodd, a’m gras ni phalla.
33Myfi Esdras a gefais orchymyn gan yr Arglwydd ar fynydd Oreb, i fyned at Israel: ond pan ddeuthum atynt, hwy a’m diystyrasant, ac a ddirmygasant orchymyn yr Arglwydd.
34Ac am hynny y dywedaf wrthych chwi genhedloedd, y rhai a glywch ac a ddeellwch, Edrychwch am eich bugail; efe a rydd i chwi orffwystra tragwyddol: canys yr hwn a ddaw ar ddiwedd y byd, sy gerllaw.
35Byddwch barod i wobr y deyrnas: canys y goleuni tragwyddol a lewyrcha arnoch byth.
36Ffowch rhag cysgod y byd hwn, derbyniwch lawenydd eich gogoniant: tystiolaethaf fy achubwr yn gyhoedd.
37O derbyniwch, rhodd a roddir i chwi, a byddwch lawen, gan ddiolch i’r hwn a’ch galwodd i’r deyrnas nefol.
38Codwch, a sefwch; gwelwch rifedi y rhai a nodwyd yng ngwledd yr Arglwydd,
39Y rhai a ymadawsant â chysgod y byd, ac a dderbyniasant wisgoedd gogoneddus gan yr Arglwydd.
40Cymer dy rifedi, O Seion, cae ar dy rai gwynion y rhai a gadwasant gyfraith yr Arglwydd.
41Cyflawnwyd rhifedi dy blant, y rhai yr wyt yn hiraethu amdanynt: dymuna nerth yr Arglwydd, fel y sancteiddier dy bobl, y rhai a alwyd o’r dechreuad.
42Myfi Esdras a welais ar fynydd Seion dyrfa o bobl allan o rifedi, a hwynt-hwy i gyd oeddynt yn moli’r Arglwydd ar gerdd:
43Ac yn eu canol hwynt yr oedd gŵr ieuanc tal o gorffolaeth, yn uwch na’r lleill oll; ac efe a osodes goronau ar bennau pob un ohonynt, ac efe a ddyrchafwyd yn fwy; a hynny oedd ryfedd iawn gennyf fi.
44Yna y gofynnais i’r angel, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, Arglwydd?
45Yntau a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Dyma’r rhai a ddiosgasant y dillad marwol, ac a wisgasant yr anfarwol, ac a gyfaddefasant enw Duw: yn awr y coronir hwynt ac y derbyniant balmwydd.
46Ac mi a ddywedais wrth yr angel, Pwy yw y gŵr ieuanc sydd yn eu coroni hwynt, ac yn rhoddi palmwydd yn eu dwylo?
47A chan ateb efe a ddywedodd wrthyf, Mab Duw yw efe, yr hwn a gyfaddefasant hwy yn y byd. Yna y dechreuais innau eu canmol hwynt yn fawr, y rhai a safasent mor bybyr wrth enw’r Arglwydd.
48Yna y dywedodd yr angel wrthyf, Dos ymaith, a dangos i’m pobl pa fath bethau, a pha gymaint o ryfeddodau’r Arglwydd Dduw, a welaist ti.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.