1Odduw y tadau, ac Arglwydd y drugaredd, yr hwn a wnaethost bob peth â’th air,
2A thrwy dy ddoethineb a osodaist ddyn i lywodraethu ar y creaduriaid a wnaethost,
3Ac i lywodraethu’r byd yn uniawn ac yn gyfiawn, ac i roddi barn a meddwl uniawn;
4Dod di i mi ddoethineb, yr hon sydd yn eistedd wrth dy orseddfainc di, ac na wrthod fi o blith dy blant.
5Canys myfi dy was, a mab dy lawforwyn, ydwyf ddyn llesg, ac o amser byr, ac yn llai mewn deall barnedigaeth a chyfraith.
6Oblegid yr hwn sy berffeithiaf ymysg meibion dynion, a gyfrifir yn ddiddim, os ymaith y bydd y doethineb sydd oddi wrthyt ti.
7Ti a’m dewisaist i yn frenin ar y bobl, ac yn farnwr ar dy feibion a’th ferched.
8Ti a ddywedaist am adeiladu teml ar dy fynydd sanctaidd, ac allor yn ninas dy breswylfod, sef portreiad y tabernacl sanctaidd, yr hwn a ddarperaist ti o’r dechreuad.
9A chyda thi yr oedd doethineb, yr hon a adwaenai dy weithredoedd di, ac oedd bresennol pan wnaethost ti y byd, ac a ŵyr beth sydd yn rhyngu bodd yn dy olwg, a pheth sydd uniawn wrth dy orchmynion di.
10Anfon hi o’th nefoedd sanctaidd, a gyr hi o orseddfainc dy ogoniant, fel y cymero hi boen yn bresennol gyda mi, ac y gwypwyf fi beth sy fodlon gennyt.
11Canys y mae hi yn gwybod ac yn deall pob peth: a hi a’m harwain i yn fy ngweithredoedd yn sobr, ac a’m ceidw i yn ei gogoniant.
12Felly y bydd fy ngweithredoedd i yn gymeradwy, ac y barnaf fi dy bobl yn gyfiawn, ac y byddaf addas i orseddfainc fy nhad.
13Canys pa ddyn a ŵyr gyfrinach Duw? a phwy a feddwl beth a ewyllysia Duw?
14Oblegid ofnus yw meddyliau dynion marwol, ac ansicr yw ein hamcanion ni.
15Canys y corff llygredig sydd yn drwm i’r enaid, a’r breswylfod ddaearol sydd yn faich i’r meddwl, yr hwn sydd yn gofalu am lawer o bethau.
16A phrin y medrwn ni iawn ddeall y pethau sy ar y ddaear, a thrwy boen yr ydym ni yn cael y pethau sydd yn ein dwylo: eithr pwy a olrhain allan y pethau sydd yn y nefoedd?
17Ie, pwy a ŵyr dy gyfrinach di, oddieithr i ti roddi doethineb, ac anfon dy Ysbryd sanctaidd o’r uchelder?
18Felly yr uniawnwyd ffyrdd y rhai sydd ar y ddaear, ac y dysgwyd i ddynion y pethau a’th fodlonant di; a thrwy ddoethineb y cadwyd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
