Genesis 33 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gydag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn.

2Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a’u plant hwy, a Lea a’i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf.

3Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.

4Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant.

5Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu’r gwragedd, a’r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes DUW o’i ras i’th was di.

6Yna y llawforynion a nesasant, hwynt-hwy a’u plant, ac a ymgrymasant.

7A Lea a nesaodd a’i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant.

8Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.

9Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt.

10A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb DUW, a thi yn fodlon i mi.

11Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid DUW a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd;

12Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o’th flaen di.

13Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna’r holl braidd.

14Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo’r anifeiliaid sydd o’m blaen i, ac y gallo’r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.

15Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o’r bobl sydd gyda mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.

16Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

17A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.

18Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.

19Ac a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gan darn o arian:

20Ac a osododd yno allor, ac a’i henwodd El-elohe-israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help