Deuteronomium 22 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd.

2Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyda thi, hyd pan ymofynno dy frawd amdano; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef.

3Ac felly y gwnei i’w asyn ef, ac felly y gwnei i’w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.

4Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef.

5Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig: oherwydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW bawb a’r a wnêl hyn.

6Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu ag wyau ynddo, a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda’r cywion.

7Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.

8Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.

9Na heua dy winllan ag amryw had; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.

10Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd.

11Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlân a llin ynghyd.

12Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi.

13O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu;

14A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod:

15Yna cymered tad y llances a’i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i’r porth.

16A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig, a’i chasáu y mae efe.

17Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas.

18A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a’i cosbant ef.

19A hwy a’i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.

20Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances:

21Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.

22O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.

23O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi;

24Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.

25Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a’i threisio o’r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig.

26Ond i’r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a’i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn:

27Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.

28O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a’u dala hwynt:

29Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.

30Na chymered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help