1Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr ARGLWYDD yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf?
2Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant.
3Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus.
4Un peth a ddeisyfais i gan yr ARGLWYDD, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr ARGLWYDD, ac i ymofyn yn ei deml.
5Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i.
6Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD.
7Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.
8Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD.
9Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O DDUW fy iachawdwriaeth.
10Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn.
11Dysg i mi dy ffordd, ARGLWYDD, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion.
12Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn.
13Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
14Disgwyl wrth yr ARGLWYDD: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
