Deuteronomium 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Nac abertha i’r ARGLWYDD dy DDUW ych neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr ARGLWYDD dy DDUW yw hynny.

2Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW, gan droseddu ei gyfamod ef,

3Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i’r haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais;

4Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn Israel;

5Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.

6Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst.

7Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith.

8Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW:

9A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.

10A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o’r lle hwnnw a ddewiso yr ARGLWYDD; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti.

11Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu deau nac i’r tu aswy.

12A’r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr ARGLWYDD dy DDUW, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.

13A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.

14Pan ddelych i’r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, a’i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch:

15Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti.

16Ond nac amlhaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i’r Aifft i amlhau meirch; gan i’r ARGLWYDD ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy.

17Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo.

18A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid.

19A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr ARGLWYDD ei DDUW, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, i’w gwneuthur hwynt:

20Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu deau nac i’r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a’i feibion yng nghanol Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help