Daniel 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Belsassar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth, sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf.

2Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai.

3Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo; a’r ddau gorn oedd uchel, ac un yn uwch na’r llall; a’r uchaf a gyfodasai yn olaf.

4Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewin, tua’r gogledd, a thua’r deau, fel na safai un bwystfil o’i flaen ef; ac nid oedd a achubai o’i law ef; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr.

5Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o’r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â’r ddaear; ac i’r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid.

6Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth.

7Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef, eithr efe a’i bwriodd ef i lawr, ac a’i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef.

8Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd.

9Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua’r deau, a thua’r dwyrain, a thua’r hyfryd wlad.

10Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o’r llu, ac o’r sêr, ac a’u sathrodd hwynt.

11Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef.

12A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.

13Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a’r llu yn sathrfa?

14Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.

15A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr.

16A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth.

17Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.

18A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a’m cyfododd yn fy sefyll.

19Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd.

20Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia.

21A’r bwch blewog yw brenin Groeg; a’r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf.

22Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o’r un genedl, ond nid un nerth ag ef.

23A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb-greulon, ac yn deall damhegion.

24A’i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, a’r bobl sanctaidd.

25A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law.

26A gweledigaeth yr hwyr a’r bore, yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd.

27Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau; yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help