Nehemeia 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan glybu Sanbalat, a Thobeia, a Gesem yr Arabiad, a’r rhan arall o’n gelynion, adeiladu ohonof fi y mur, ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo; (er na osodaswn i y pryd hwnnw y dorau ar y pyrth;)

2Yna yr anfonodd Sanbalat a Gesem ataf, gan ddywedyd, Tyred, ac ymgyfarfyddwn ynghyd yn un o’r pentrefi yng ngwastadedd Ono. Ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi.

3Minnau a anfonais genhadau atynt hwy, gan ddywedyd, Gwaith mawr yr ydwyf fi yn ei wneuthur; oherwydd hynny ni allaf ddyfod i waered: paham y safai y gwaith, pan ymadawn ag ef, a dyfod i waered atoch chwi?

4Eto hwy a anfonasant ataf fi yn y wedd hon bedair gwaith; ac yn y modd hwnnw yr atebais hwynt.

5Yna Sanbalat a anfonodd ei was ataf fi y bumed waith yr un ffunud, â llythyr agored yn ei law:

6Ynddo yr oedd yn ysgrifenedig, Ymysg y cenhedloedd y mae y gair, a Gasmu sydd yn dywedyd, dy fod di a’r Iddewon yn amcanu gwrthryfela: oherwydd hynny dy fod di yn adeiladu y mur, fel y byddit frenin arnynt, yn ôl y geiriau hyn;

7A’th fod dithau hefyd wedi gosod proffwydi i bregethu amdanat yn Jerwsalem, gan ddywedyd, Y mae brenin yn Jwda. Ac yn awr y fath ymadroddion â hyn a glyw y brenin: gan hynny tyred yn awr, ac ymgynghorwn ynghyd.

8Yna yr anfonais ato, gan ddywedyd, Ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd: ond o’th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychmygu hwynt.

9Oblegid hwynt-hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni, gan ddywedyd, Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith, fel nas gwneir ef. Gan hynny cryfha yn awr, O DDUW, fy nwylo i.

10A mi a ddeuthum i dŷ Semaia mab Delaia, mab Mehetabeel, yr hwn oedd wedi cau arno; ac efe a ddywedodd, Cyfarfyddwn yn nhŷ DDUW, a chaewn ddrysau y deml: canys y maent yn dyfod i’th ladd di; a lliw nos y deuant i’th ladd di.

11Yna y dywedais, a ffy gŵr o’m bath i? neu pwy sydd fel myfi yr hwn a elai i’r deml, fel y byddai byw? Nid af i mewn.

12Ac wele, gwybûm nad DUW a’i hanfonasai ef; ond llefaru ohono ef y broffwydoliaeth hon yn fy erbyn i: canys Tobeia a Sanbalat a’i cyflogasent ef.

13Oherwydd hyn y cyflogasid ef, fel y’m hofnid i, ac y gwnawn felly, ac y pechwn; ac y byddai hynny ganddynt yn enllib i’m herbyn, fel y’m gwaradwyddent.

14O fy NUW, cofia Tobeia a Sanbalat, yn ôl eu gweithredoedd hynny; a Noadeia y broffwydes hefyd, a’r rhan arall o’r proffwydi y rhai oedd yn fy nychrynu i.

15A’r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul, mewn deuddeng niwrnod a deugain.

16A phan glybu ein holl elynion ni hynny, a gweled o’r holl genhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch, hwy a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai trwy ein DUW ni y gwnaethid y gwaith hwn.

17Ac yn y dyddiau hyn pendefigion Jwda oedd yn mynych ddanfon eu llythyrau at Tobeia; a’r eiddo Tobeia oedd yn dyfod atynt hwythau.

18Canys yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef; oherwydd daw oedd efe i Sechaneia mab Ara; a Johanan ei fab ef a gymerasai ferch Mesulam mab Berecheia yn wraig iddo.

19A’i gymwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegi ger fy mron i; fy ngeiriau innau hefyd y byddent yn eu hadrodd iddo yntau. A Thobeia a anfonodd lythyrau i’m dychrynu i.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help