Esther (Y Rhan Arall) 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 11

1Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ptolomeus a Chleopatra, y dug Dositheus, yr hwn a ddywedodd ei fod yn offeiriad ac yn Lefiad, a’i fab Ptolomeus, y llythyr hwn am y Purim, yr hwn y dywedasant mai hwnnw oedd, ac i Lysimachus fab Ptolomeus, yr hwn oedd yn Jerwsalem, ei gyfieithu.

2Yr ail flwyddyn o deyrnasiad Artacsercses fawr, y dydd cyntaf o fis Nisan, y breuddwydiodd Mardocheus mab Jairus, fab Simei, fab Cisai, o lwyth Benjamin;

3Yr hwn oedd Iddew, ac yn trigo yn ninas Susa, gŵr mawr, am ei fod yn weinidog yn llys y brenin.

4Ac un oedd efe o’r gaethglud a gaethgludasai Nabuchodonosor brenin Babilon o Jerwsalem, gyda Jechoneias brenin Jwda. A dyma ei freuddwyd ef:

5Wele sain twrf, taranau, a daeargryn, a chythrwfl ar y ddaear.

6Ac wele, dwy ddraig fawr a ddaethant allan yn barod bob un ohonynt i ymladd; a’u llef oedd fawr.

7Ac wrth eu llef hwynt yr ymbaratôdd yr holl genhedloedd i ryfel, fel yr ymladdent yn erbyn y genedl gyfiawn.

8Ac wele ddiwrnod tywyll a niwlog, cystudd ac ing, drygfyd a thrallod mawr ar y ddaear.

9Yna y trallodwyd yr holl genedl gyfiawn, gan ofni eu drygfyd, ac yn barod i’w difetha.

10Yna hwy a waeddasant ar Dduw; ac wrth eu gwaedd hwynt y daeth megis o ffynnon fechan, afon fawr, a dwfr lawer.

11Goleuni hefyd a haul a gyfododd, a’r rhai iselradd a ddyrchafwyd, ac a ddifasant y gogoneddus.

12A phan gyfododd Mardocheus, yr hwn a welsai’r breuddwyd hwn, a’r hyn a fynnai Duw ei wneuthur; bu y breuddwyd hwn ganddo yn ei galon, a thrwy bob rheswm y chwenychai efe ei wybod ef, hyd onid oedd hi yn nos.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help