1Wele yr ARGLWYDD yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi ac a wasgar ei thrigolion.
2Yna bydd yr un ffunud i’r bobl ac i’r offeiriad, i’r gwas ac i’w feistr, i’r llawforwyn ac i’w meistres, i’r prynydd ac i’r gwerthydd, i’r hwn a roddo ac i’r hwn a gymero echwyn, i’r hwn a gymero log ac i’r hwn a dalo log iddo.
3Gan wacáu y gwacéir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.
4Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear.
5Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol.
6Am hynny melltith a ysodd y tir, a’r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd.
7Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.
8Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn.
9Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i’r rhai a’i hyfant.
10Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn.
11Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith.
12Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.
13Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin.
14Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr ARGLWYDD, bloeddiant o’r môr.
15Am hynny gogoneddwch yr ARGLWYDD yn y dyffrynnoedd, enw ARGLWYDD DDUW Israel yn ynysoedd y môr.
16O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i’r cyfiawn. A dywedais, O fy nghulni, O fy nghulni, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o’r fath anffyddlonaf.
17Dychryn, a ffos, a magl fydd arnat ti, breswylydd y ddaear.
18A’r hwn a ffy rhag trwst y dychryn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagl: oherwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd, a seiliau y ddaear sydd yn crynu.
19Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear, gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear, gan symud yr ymsymudodd y ddaear.
20Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigla megis bwth; a’i chamwedd fydd drwm arni; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy.
21Yr amser hwnnw yr ymwêl yr ARGLWYDD â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.
22A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy, a hwy a garcherir mewn carchar, ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir â hwynt.
23Yna y lleuad a wrida, a’r haul a gywilyddia, pan deyrnaso ARGLWYDD y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalem, ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.