1 Cronicl 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD dan gortynnau.

2Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae DUW gyda thi.

3A’r noson honno y daeth gair DUW at Nathan, gan ddywedyd,

4Dos, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo.

5Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac o dabernacl bwygilydd.

6Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?

7Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel.

8A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear.

9Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf,

10Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr ARGLWYDD i ti dŷ.

11A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibion di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef.

12Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth.

13Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di.

14Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i deyrngadair ef a sicrheir byth.

15Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

16A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O ARGLWYDD DDUW, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?

17Eto bychan yw hyn yn dy olwg di, O DDUW; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O ARGLWYDD DDUW, fel ar gyflwr dyn uchelradd.

18Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was.

19O ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd.

20O ARGLWYDD, nid oes neb fel tydi, ac nid oes DUW ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom â’n clustiau.

21A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth DUW i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aifft?

22Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, a aethost yn DDUW iddynt hwy.

23Am hynny yr awr hon, ARGLWYDD, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist.

24A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd, ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, sydd DDUW i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di.

25Canys ti, O fy NUW, a ddywedaist i’th was, yr adeiladit ti dŷ iddo ef: am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di.

26Ac yr awr hon, ARGLWYDD, ti ydwyt DDUW, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn;

27Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O ARGLWYDD, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help