Diarhebion 24 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt:

2Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder.

3Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef:

4A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.

5Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.

6Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.

7Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.

8Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.

9Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.

10Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth.

11Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd?

12Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?

13Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau.

14Felly y bydd gwybodaeth doethineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla.

15Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef.

16Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni.

17Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:

18Rhag i’r ARGLWYDD weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.

19Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:

20Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.

21Fy mab, ofna yr ARGLWYDD a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad:

22Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?

23Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn.

24Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a’i melltithiant ef, cenhedloedd a’i ffieiddiant ef:

25Ond i’r neb a’i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt.

26Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn.

27Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.

28Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â’th wefusau.

29Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred.

30Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall;

31Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr.

32Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg.

33Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu:

34Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help