1Fy mhlant, clywch fi eich tad, a gwnewch felly, fel y byddoch gadwedig:
2Oblegid yr Arglwydd a roddes i’r tad anrhydedd ar y plant, ac a sicrhaodd farn y fam ar y meibion.
3Yr hwn sydd yn anrhydeddu ei dad, sydd yn cael maddeuant am ei bechod;
4A’r hwn sydd yn anrhydeddu ei fam, sydd fel un yn casglu trysor.
5Yr hwn a anrhydeddo ei dad, a gaiff lawenydd o’i blant; ac efe a wrandewir y dydd y gweddïo.
6Hir-hoedlog fydd yr hwn a anrhydeddo ei dad: a’r hwn a ufuddhao i’r Arglwydd; a bair orffwystra i’w fam.
7Yr hwn sydd yn ofni’r Arglwydd, a anrhydedda ei dad, ac a wasanaetha y rhai a’i cenedlasant ef, fel ei arglwyddi.
8Anrhydedda dy dad a’th fam ar weithred a gair, fel y delo i ti fendith gan ddynion;
9Oblegid bendith y tad a sicrha deiau y plant: ond melltith y fam a ddiwreiddia sylfeini.
10Na ymffrostia yn amarch dy dad: oherwydd nid parch i ti fydd amarch dy dad:
11Canys anrhydedd fydd i ddyn o anrhydedd ei dad: a mam mewn amarch sydd warth i’r plant.
12Fy mab, cynorthwya dy dad yn ei henaint; ac na thristâ ef yn dy fyw.
13Os palla ei synnwyr, cyd-ddwg ag ef; ac na amharcha ef pan fyddech yn dy holl gryfder.
14Oherwydd nid anghofir dy drugaredd i’th dad: ac yn lle pechodau, fe a’i chwanegir i’th adeiladu di i fyny.
15Yn nydd dy drallod y meddylir amdanat ti: a’th bechodau a doddir, megis pan ddêl meiriol ar iâ.
16Megis cablwr yw yr hwn sydd yn gwrthod ei dad; a melltigedig gan Dduw yw yr hwn sydd yn digio ei fam.
17Fy mab, gorffen dy waith yn llednais, a’r dyn cymeradwy a’th hoffa di.
18Po mwyaf fyddech, ymddarostwng yn fwy, a thi a gei ffafr yng ngŵydd yr Arglwydd.
19Y mae llawer yn uchel radd ac yn anrhydeddus; eithr i’r rhai llednais y datguddir dirgeledigaethau:
20Canys mawr yw gallu’r Arglwydd, a’r rhai gostyngedig a’i hanrhydeddant ef.
21Na chais yn ddisynnwyr bethau rhy galed i ti, ac na chais yn angall bethau rhy gryfion i ti.
22Y pethau a orchmynnwyd, meddwl am hynny yn sanctaidd; oblegid nid rhaid i ti weled pethau cuddiedig â’th lygaid.
23Na fydd ry fanwl mewn pethau afraid: canys fe ddangoswyd i ti fwy nag a ddichon dynion eu deall.
24Eu hofer dyb a dwyllodd lawer, a drwg dyb a lesgaodd eu deall hwynt.
25Oni bydd canhwyllau dy lygaid gennyt, fe fydd eisiau goleuni arnat: ond o bydd eisiau gwybodaeth, na fynega hynny.
26Drwg fydd ar galon galed yn y diwedd: a’r hwn a hoffa enbydrwydd, a ddifethir ynddo.
27Calon galed a lwythir â phoenau: a’r pechadur a chwanega bechodau ar bechodau.
28Yng nghosbedigaeth y balch nid oes meddyginiaeth; oherwydd gwreiddio planhigyn drygioni ynddo ef.
29Calon y deallgar a feddwl am ddameg; a chlust y gwrandawydd yw dymuniad y doeth.
30Dwfr a ddiffydd dân yn fflamio; a thrwy elusen y ceir maddeuant am bechodau.
31A’r Arglwydd, yr hwn sydd yn talu cymwynasau, sy gofus erbyn yr amser a ddaw; a’r cyfryw, yn amser ei dramgwydd, a gaiff ateg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.