Y Salmau 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 6I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.

1 ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.

2Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O ARGLWYDD; canys fy esgyrn a gystuddiwyd.

3A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, ARGLWYDD, pa hyd?

4Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.

5Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna?

6Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau.

7Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.

8Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain.

9Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad: yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi.

10Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help