1Yr hwn sydd yn ofni’r Arglwydd, a wna dda; a’r hwn sydd yn dal gwybodaeth y gyfraith, a’i caiff hi:
2Fel mam y cyferfydd hi ag ef, ac fel gwraig a briodwyd o forwyn y derbyn hi ef.
3Hi a’i portha ef â bara deall, ac a’i dioda ef â dwfr doethineb.
4Efe a sicrheir arni hi, ac ni ogwydda: efe a lŷn wrthi hi, ac ni waradwyddir ef.
5Hi a’i cyfyd ef goruwch ei gymdogion, ac a egyr ei enau ef yng nghanol y gynulleidfa.
6Llawenydd a choron gorfoledd a gaiff efe; a hi a rydd iddo enw tragwyddol yn etifeddiaeth.
7Eithr dynion ansynhwyrol ni chânt afael arni hi; a gwŷr pechadurus hefyd ni chânt ei gweled hi:
8Canys pell yw hi oddi wrth falchder; a gwŷr celwyddog ni chofiant hi.
9Nid gweddus clod yng ngenau pechadur: oblegid yr Arglwydd nis anfonodd hi iddo ef;
10Canys trwy ddoethineb y traethir clod; a’r Arglwydd a’i llwydda ef.
11Na ddywed, Trwy waith yr Arglwydd yr euthum i ymaith: oblegid ni ddylit ti wneuthur yr hyn sy gas ganddo ef.
12Na ddywed, Efe a’m lluniodd i: oblegid nid rhaid iddo ef wrth ŵr pechadurus.
13Cas gan yr Arglwydd bob ffieidd-dra; ac nid da yw hynny gan y rhai a’i hofnant ef.
14Efe a wnaeth ddyn o’r dechreuad, ac a’i gadawodd ef yn llaw ei gyngor;
15Os mynni, i gadw’r gorchmynion, ac i wneuthur ffyddlondeb cymeradwy.
16Efe a osododd o’th flaen di dân a dwfr: estyn dy law at yr hwn a fynnych di.
17Y mae o flaen dynion einioes ac angau; a’r hyn a fynno efe a roddir iddo ef.
18Oblegid mawr yw doethineb yr Arglwydd, ac y mae efe yn gryf o allu, ac yn gweled pob peth.
19Hefyd y mae ei olwg ef ar y rhai sy yn ei ofni ef; ac efe a ŵyr holl waith dyn.
20Ni orchmynnodd efe i neb wneuthur yn annuwiol; ac ni roddes efe gennad i neb i bechu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
