1Ytrydydd dydd yr eisteddais dan dderwen; yna y daeth llef ataf o berth ar fy nghyfer, gan ddywedyd, Esdras, Esdras.
2A minnau a atebais gan ddywedyd, Dyma fi, Arglwydd: a mi a sefais ar fy nhraed.
3Yna y dywedodd efe wrthyf, Yn y berth yr ymddangosais i Moses, ac yr ymddiddenais ag ef, pan oedd fy mhobl yn gwasanaethu yn yr Aifft.
4A danfonais ef, a thywysais fy mhobl allan o’r Aifft, a dygais ef i fyny i fynydd Sinai, lle y cedwais ef gyda mi yn hir o amser.
5A dangosais iddo lawer o ryfeddodau, a chyfrinach yr amseroedd, a’u diwedd; a gorchmynnais iddo, gan ddywedyd,
6Y geiriau hyn a fynegi, a’r rhai hyn a geli.
7Ac yn awr y dywedaf wrthyt ti,
8Dod i fyny yn dy galon yr arwyddion a ddangosais i ti, a’r breuddwydion a welaist, a’r dehongliad a glywaist:
9Canys dygir di ymaith oddi wrth y cwbl; ac o hyn allan yr arhoi gyda’m Mab, a chyda’th gyffelyb, hyd ddiwedd yr amseroedd:
10Canys y byd a gollodd ei ieuenctid, a’r amseroedd sy’n dechrau heneiddio.
11Canys y byd a rannwyd yn ddeuddeg rhan, a deg rhan o hynny a aeth ymaith eisoes, a hanner degfed ran.
12Ac y mae yn ôl yr hyn sydd ar ôl hanner y ddegfed ran.
13Am hynny gosod dy dŷ mewn trefn, a cherydda dy bobl, cysura y rhai ohonynt sy mewn helbul, ac yn awr yn ymwrthod â llygredigaeth.
14Gollwng oddi wrthyt feddyliau marwol, bwrw ymaith feichiau dynion, a diosg y naturiaeth wan.
15Bwrw heibio y meddyliau sy drymaf arnat, a brysia i ffoi oddi wrth yr amseroedd hyn;
16Canys drygau mwy na’r rhai a welaist yn digwydd, a wneir yn ôl hyn.
17Canys po gwannaf fyddo’r byd wrth oedran, mwy y tyf drygau ar y rhai a erys ynddo.
18Canys y gwirionedd a ffodd ymhell, a chelwydd sydd yn agos: canys bellach y prysura’r weledigaeth a welaist, i ddyfod.
19Yna yr atebais o’th flaen di, gan ddywedyd,
20Wele, Arglwydd, mi a af i geryddu’r bobl sy gydrychol, fel y gorchmynnaist i mi: ond pwy a rybuddia y rhai a aner ar ôl hyn? Fel hyn y gosodwyd y byd mewn tywyllwch, a’r rhai sy’n trigo ynddo sy heb oleuni.
21Canys dy gyfraith a losgwyd: am hynny ni ŵyr neb y pethau a wnaethost ti, na’r gweithredoedd a ddechreuir.
22Ond os cefais ffafr ger dy fron di, danfon yr Ysbryd Glân i mi, a mi a sgrifennaf y cwbl a’r a wnaethpwyd yn y byd er y dechreuad, yr hyn a sgrifenasid yn dy gyfraith, fel y gallo dynion gael dy lwybr, ac fel y byddo byw y sawl a fyddo’n fyw yn y dyddiau diwethaf.
23Ac efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Dos ymaith, casgl y bobl ynghyd, a dywed wrthynt nad edrychont amdanat dros ddeugain niwrnod.
24Ac edrych ar ddarparu ohonot lawer o goed bocs, a chymer gyda thi Sarea, Dabria, Selemeia, Ecanus, ac Asiel, y pump hyn, y rhai a fedrant ysgrifennu yn fuan:
25A thyred yma, a mi a oleuaf gannwyll deall yn dy galon di, yr hon ni diffoddir nes gorffen y pethau a ddechreuech di eu hysgrifennu.
26A phan ddarffo i ti, ti a ddangosi ryw bethau yn olau; a rhyw bethau a ddangosi di yn gyfrinachol i’r doethion: y pryd hyn yfory y dechreui di sgrifennu.
27Yna yr euthum allan, fel y gorchmynnodd efe i mi, a chesglais yr holl bobl ynghyd, a dywedais,
28Gwrando’r geiriau hyn, O Israel.
29Ein tadau yn y dechrau oeddynt ddieithriaid yn yr Aifft; o’r hwn le y gwaredwyd hwynt:
30A hwy a dderbyniasant gyfraith y bywyd, yr hon nis cadwasant, a’r hon a droseddasoch chwithau hefyd ar eu hôl hwynt.
31Yna y rhannwyd y wlad, sef gwlad Seion, rhyngoch chwi wrth goelbren; ond eich tadau a chwithau eich hunain hefyd a wnaethoch ar fai, ac ni chadwasoch y ffyrdd a orchmynnodd y Goruchaf i chwi.
32Ac yn gymaint â’i fod ef yn Farnwr cyfiawn, efe a ddug oddi arnoch mewn amser, y peth a roddasai efe i chwi.
33Ac yn awr, yma yr ydych, a’ch brodyr yn eich plith.
34Am hynny os chwi a ddarostyngwch eich deall, ac a drowch eich calonnau, chwi a gedwir yn fyw, ac yn ôl marwolaeth y cewch drugaredd:
35Canys yn ôl marwolaeth y daw y farn, pan fyddom byw drachefn: ac yna y bydd enw y cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn olau.
36Am hynny na ddeled neb ataf yn awr, ac na edryched amdanaf y deugain niwrnod hyn.
37Felly y cymerais y pum gŵr, fel y gorchmynnodd efe i mi; a ni a aethom i’r maes, ac a arosasom yno.
38Yr ail dydd, llef a’m galwodd, gan ddywedyd, Esdras, agor dy safn, ac yf y peth a roddwyf i ti i’w yfed.
39Yna yr agorais fy safn, ac wele, efe a estynnodd i mi gwpan llawn, yr hwn oedd yn llawn fel pe byddai o ddwfr, ond ei liw ef oedd megis tân.
40Ac mi a’i cymerais ef, ac a’i hyfais: ac wedi i mi ei yfed, fy nghalon a ddeallodd, a doethineb a ddaeth i’m dwyfron; canys fy ysbryd a gryfhaodd fy nghof;
41A’m genau a agorwyd, ac ni chaeodd mwy.
42Y Goruchaf a roddes ddeall i’r pum gŵr, a hwy a sgrifenasant weledigaethau rhyfedd y nos, y rhai a fynegwyd, y rhai nis gwyddent: a hwy a eisteddasant ddeugain niwrnod, ac a sgrifenasant y dydd, a’r nos y bwytasant fara.
43A minnau a leferais liw dydd, ac ni thewais y nos.
44Mewn deugain niwrnod hwy a sgrifenasant ddau cant a phedwar o lyfrau.
45A digwyddodd, pan gyflawnwyd y deugain niwrnod, y Goruchaf a lefarodd, gan ddywedyd, Y llyfr cyntaf a sgrifennaist, mynega ar gyhoedd, fel y gallo’r teilwng a’r annheilwng ei ddarllen ef:
46Ond cadw y deg a thrigain diwethaf, fel y gallech eu rhoddi hwynt yn unig i’r rhai sy ddoethion ymysg y bobl:
47Canys ynddynt hwy y mae gwythen y deall, ffynnon doethineb, ffrwd y gwybodaeth.
48Ac felly y gwneuthum.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.