1Da gennyf wrando o’r ARGLWYDD ar fy llef, a’m gweddïau.
2Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
3Gofidion angau a’m cylchynasant, a gofidiau uffern a’m daliasant: ing a blinder a gefais.
4Yna y gelwais ar enw yr ARGLWYDD; Atolwg, ARGLWYDD, gwared fy enaid.
5Graslon yw yr ARGLWYDD, a chyfiawn; a thosturiol yw ein DUW ni.
6Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a’m hachubodd.
7Dychwel, O fy enaid, i’th orffwysfa; canys yr ARGLWYDD fu dda wrthyt.
8Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a’m traed rhag llithro.
9Rhodiaf o flaen yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
10Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
11Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.
12Beth a dalaf i’r ARGLWYDD, am ei holl ddoniau i mi?
13Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr ARGLWYDD y galwaf.
14Fy addunedau a dalaf i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.
15Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei saint ef.
16O ARGLWYDD, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.
17Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr ARGLWYDD.
18Talaf fy addunedau i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,
19Yng nghynteddoedd tŷ yr ARGLWYDD, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
