1A phan hwyrhaodd hi, ei weision ef a frysiasant i fyned ymaith; a Bagoas a gaeodd ei babell ef o’r tu allan, ac a ollyngodd ymaith y rhai oedd yn sefyll gerbron ei arglwydd, a hwy a aethant i’w gwelyau: canys yr oeddynt oll yn ddiffygiol, oherwydd hir y buasai’r wledd.
2A Judith a adawyd ei hun yn y babell; ac Oloffernes oedd yn gorwedd ar ei wely, canys yr oedd efe wedi ymlenwi o win.
3A Judith a ddywedodd wrth ei llawforwyn am iddi sefyll o’r tu allan i’w stafell, a disgwyl am ei dyfodiad hi allan, megis y byddai hi beunydd: oblegid hi a ddywedodd yr âi hi allan i’w gweddi: ac wrth Bagoas y dywedodd hi yr un ffunud.
4Felly pawb a aethant ymaith o’i gŵydd hi, ac ni adawyd neb yn yr ystafell o fychan i fawr. Yna Judith yn sefyll wrth ei wely ef a ddywedodd yn ei chalon, O Arglwydd Dduw pob nerth, edrych di yr awr hon ar waith fy nwylo, er dyrchafiad i Jerwsalem:
5Canys yn awr y mae yr amser i gynorthwyo dy etifeddiaeth, ac i gwblhau fy amcanion i, er distrywio’r gelynion a gyfodasant i’n herbyn ni.
6Yna hi a ddaeth at erchwyn y gwely, yr hwn oedd wrth ben Oloffernes, ac a dynnodd i lawr ei gleddyf ef oddi yno.
7A hi a ddaeth yn nes at y gwely, ac a ymaflodd yng ngwallt ei ben ef, ac a ddywedodd, Nertha di fi, O Arglwydd Dduw, y dydd hwn.
8A hi a drawodd ar ei wddf ef ddwy waith â’i holl nerth, ac a dynnodd ymaith ei ben ef oddi wrtho,
9Ac a dreiglodd ei gorff ef o’r gwely, ac a dynnodd ymaith y canopi oddi ar y colofnau: ac wedi ychydig ennyd hi a aeth allan, ac a roddes ben Oloffernes i’w llawforwyn:
10A hithau a’i rhoddes ef yn y tudded lle yr oedd eu bwyd hwynt: yna hwy a aethant allan ill dwyoedd ynghyd, fel y byddent arferol wrth fyned i weddïo: a chan fyned trwy’r gwersyll, hwy a amgylchasant y dyffryn hwnnw, a hwy a aethant i fyny i fynydd Bethulia, ac a ddaethant wrth ei phyrth hi.
11Yna y dywedodd Judith o hirbell wrth y rhai oedd yn cadw’r pyrth, Agorwch, agorwch weithian y porth. Duw, sef ein Duw ni, sydd gyda ni, i wneuthur eto rymuster yn Israel, a chadernid yn erbyn y gelynion, fel y gwnaeth efe heddiw.
12A phan glybu gwŷr ei dinas ei llais hi, hwy a frysiasant ddyfod i waered at borth eu dinas: a hwy a alwasant ynghyd henuriaid y ddinas.
13A hwy a redasant ynghyd o fychan i fawr: canys amau oedd ganddynt ei dyfod hi: felly hwy a agorasant y porth, ac a’i derbyniasant hi, ac a gyneuasant dân yn olau, ac a safasant o’u hamgylch hwynt.
14Yna hi a ddywedodd wrthynt â llef uchel, Moliennwch Dduw, moliennwch, moliennwch Dduw; canys ni thynnodd efe ymaith ei drugaredd oddi wrth dŷ Israel, eithr efe a ddinistriodd ein gelynion trwy fy llaw i y nos hon.
15Yna hi a dynnodd ei ben ef allan o’r cwd, ac a’i dangosodd, ac a ddywedodd wrthynt, Wele ben Oloffernes pen-tywysog milwriaeth yr Asyriaid, ac wele’r brycan yr oedd efe yn gorwedd ynddo yn ei feddwdod: a’r Arglwydd a’i trawodd ef trwy law benyw.
16Fel y mae’r Arglwydd yn fyw, yr hwn a’m cadwodd i yn y ffordd y rhodiais arni, fy wyneb i a’i twyllodd ef i’w golledigaeth, ac ni wnaeth efe bechod gyda mi i’m halogi ac i’m cywilyddio.
17Yna y synnodd ar yr holl bobl yn aruthr, ac a ymgrymasant, ac a addolasant Dduw, ac a ddywedasant o unfryd, Bendigedig wyt ti, ein Duw ni, yr hwn a wnaethost elynion dy bobl yn ddiddim y dydd heddiw.
18Yna Oseias a ddywedodd wrthi hi, O ferch, bendigedig wyt gan Dduw goruchaf, rhagor yr holl wragedd sydd ar y ddaear: a bendigedig fyddo’r Arglwydd Dduw, yr hwn a greodd y nefoedd a’r ddaear, yr hwn a’th gyfarwyddodd di i dorri pen tywysog ein gelynion.
19Oblegid nid ymedy dy obaith di o galon dynion, y rhai a gofiant nerth Duw yn dragywydd.
20A Duw a wnêl hyn yn glod tragwyddol i ti, ac a ymwelo â thi â daioni, oherwydd nad arbedaist dy einioes, o achos cystudd ein cenedl ni, eithr achubaist flaen ein cwymp, gan rodio yn uniawn yng ngolwg ein Duw ni. A’r holl bobl a ddywedasant, Poed gwir fyddo, Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.