Judith 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 7

1A thrannoeth Oloffernes a orchmynnodd i’w holl lu, ac i’w holl bobl, y rhai a ddaethent yn gynhorthwy iddo, symud eu gwersyllau yn erbyn Bethulia, ac o’r blaen oresgyn bylchau’r mynydd-dir, a gwneuthur rhyfel yn erbyn meibion Israel.

2Yna eu gwŷr cryfion hwynt a symudasant eu gwersyllau y dwthwn hwnnw. A llu y rhyfelwyr oedd gan mil a deng mil a thrigain o wŷr traed, a deuddeng mil o wŷr meirch, heblaw pobl gymysg, a gwŷr eraill, y rhai oedd ar eu traed yn eu plith hwynt, yn dyrfa fawr iawn.

3A hwy a wersyllasant yn y dyffryn, yn gyfagos i Bethulia, wrth y ffynnon: ac a gyraeddasant ar led o Dothaim hyd Belmaim, ac ar hyd o Bethulia i Cyamon, yr hon sydd ar gyfer Esdraelom.

4A phan welodd meibion Israel eu lliaws hwynt, hwy a gyffroesant yn aruthr, a phob un a ddywedodd wrth ei gilydd, Yn awr y rhai hyn a oresgynasant wyneb yr holl ddaear: canys ni ddichon y mynyddoedd uchel, na’r dyffrynnoedd, na’r bryniau, gynnal eu pwys hwynt.

5Yna pob un a gymerth ei arfau rhyfel, ac a gyneuasant dân ar eu tyrau, ac a arosasant yn gwylied ar hyd y nos honno.

6Ac ar yr ail dydd, Oloffernes a ddug allan ei holl wŷr meirch yng ngolwg meibion Israel y rhai oedd yn Bethulia.

7Ac efe a ddaliodd sylw ar y ffordd yr elid i fyny i’w dinas hwynt, ac efe a ddaeth at eu ffynhonnau dyfroedd hwy, ac a’u goresgynnodd hwynt, ac a osododd fyddinoedd o ryfelwyr arnynt hwy, ac a symudodd ei wersyll tuag at ei bobl.

8Yna holl dywysogion meibion Esau, a holl benaethiaid pobl Moab, a holl gapteiniaid y mordir, a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant,

9Gwrandawed ein harglwydd air yn awr, rhag dyfod afrwydd-deb yn dy lu di.

10Canys y bobl hyn, meibion Israel, nid ydynt yn ymddiried yn eu gwaywffyn, eithr yn uchder y mynyddoedd, lle y maent hwy yn preswylio, oblegid anodd yw myned i fyny i bennau eu mynyddoedd hwy.

11Yn awr gan hynny, fy arglwydd, nac ymladd â hwynt mewn rhyfel byddinog, ac ni dderfydd am un gŵr o’th bobl di.

12Aros yn dy wersyllau, gan gadw pob gŵr o’th lu, a goresgynned dy weision di y ffynnon ddwfr sy’n dyfod allan o odre’r mynydd:

13Canys oddi yno y mae holl drigolion Bethulia yn cael eu dwfr: felly syched a’u lladd hwynt, a hwy a roddant i fyny eu dinas; a ninnau a’n pobl a awn i fyny i bennau’r mynyddoedd nesaf, ac a wersyllwn yn eu herbyn hwynt, trwy wylied nad elo un gŵr allan o’r ddinas.

14Felly hwynt-hwy a’u gwragedd a’u meibion a drengant o newyn; a chyn dyfod y cleddyf yn eu herbyn, hwy a ddymchwelir yn yr heolydd lle y maent yn trigo.

15Fel hyn y teli di iddynt hwy daledigaeth ddrygionus oherwydd iddynt wrthryfela, ac nad ufuddhasant i’th wyneb di yn heddychol.

16A’u geiriau hwynt a fu fodlon gan Oloffernes, a chan ei holl weision: ac efe a orchmynnodd wneuthur megis y llefarasent hwy.

17Felly gwersyllau meibion Ammon a ymadawsant, a chyda hwynt bum mil o’r Asyriaid; a hwy a wersyllasant yn y dyffryn, ac a oresgynasant y dyfroedd, a ffynhonnau dwfr meibion Israel.

18A meibion Esau a aethant i fyny gyda meibion Ammon, ac a wersyllasant yn y mynydd-dir ar gyfer Dothaim: a hwy a anfonasant rai ohonynt tua’r deau, a thua’r dwyrain, gyferbyn ag Ecrebel, yr hon sydd yn gyfagos i Chusi, yr hon sydd ar yr afon Mochmur; a’r rhan arall o lu’r Asyriaid a wersyllasant yn y maes, ac a orchuddiasant holl wyneb y wlad; a’u pebyll hwynt, a’u mud, a wersyllasant yn lliaws mawr iawn.

19A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd eu Duw, canys hwy a ddigalonasent; oherwydd bod eu holl elynion o amgylch, fel na allent ffoi o’u plith hwynt.

20A holl gynulleidfa’r Asyriaid, a’r gwŷr traed, a’r cerbydau, a’u gwŷr meirch, a drigasant o’u hamgylch hwynt bedwar diwrnod ar ddeg ar hugain, fel y pallodd eu holl lestri dyfroedd gan holl drigolion Bethulia.

21A’r ffynonellau a ddihysbyddwyd, ac nid oedd ganddynt ddigon o ddwfr i’w yfed dros un diwrnod: canys dan fesur y rhoddent iddynt ddwfr i’w yfed.

22Am hynny eu plant hwy a lesmeiriasant, a’u gwragedd a’u gwŷr ieuainc a ballasant gan syched, ac a syrthiasant yn heolydd y ddinas, ac yng nghyniweirfeydd y pyrth: ac nid oedd nerth ynddynt mwyach.

23Yna’r holl bobl a ymgasglasant at Oseias, ac at dywysogion y ddinas, yn wŷr ieuainc, ac yn wragedd, ac yn blant, ac a waeddasant â llef uchel, ac a ddywedasant gerbron yr holl henuriaid,

24Duw a farno rhyngom ni a chwi: canys chwi a wnaethoch gam mawr â ni, am na lefarasoch yn heddychlon wrth feibion Asyria.

25Canys yn awr nid oes gennym ni gynorthwywr: eithr Duw a’n gwerthodd ni i’w dwylo hwynt, fel y’n cwymper i lawr o’u blaen hwynt, trwy syched, a thrwy ddinistr mawr.

26Yn awr gan hynny gelwch hwynt atoch, a rhoddwch yr holl ddinas yn anrhaith i bobl Oloffernes, ac i’w holl lu ef.

27Canys gwell i ni fod yn anrhaith iddynt hwy na marw o syched: oblegid ni a fyddwn yn weision, fel y byddo byw ein heinioes, ac na welom farwolaeth ein plant o flaen ein llygaid, na’n gwragedd a’n meibion yn meirw.

28Yr ydym yn galw yn dyst yn eich erbyn chwi y nef a’r ddaear, a’n Duw ni, ac Arglwydd ein tadau, yr hwn sydd yn dial arnom ni yn ôl ein pechodau, a phechodau ein tadau, fel na wnelo efe fel hyn y dydd heddiw.

29Yna yr oedd wylofain mawr yng nghanol y gynulleidfa gan bawb yn gytûn: felly hwy a waeddasant ar yr Arglwydd Dduw â llef uchel.

30Yna y dywedodd Oseias wrthynt hwy, Cymerwch gysur, frodyr: disgwyliwn eto bum niwrnod, yn y rhai y dichon yr Arglwydd ein Duw ddychwelyd ei drugaredd arnom: canys o’r diwedd ni wrthyd efe mohonom ni.

31Ac od â’r dyddiau hyn heibio, heb ddyfod cynhorthwy i ni, mi a wnaf yn ôl eich gair chwi.

32Felly efe a wasgarodd y bobl i’w gwersyllau, a hwy a aethant ymaith i’r muriau, ac i dyrau eu dinas, ac a anfonasant eu gwragedd a’u plant i’w tai: a hwy a fuant mewn gostyngiad mawr yn y ddinas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help