Eseia 35 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yr anialwch a’r anghyfanheddle a lawenychant o’u plegid; y diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn.

2Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr ARGLWYDD, a godidowgrwydd ein DUW ni.

3Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid.

4Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich DUW chwi a ddaw â dial, ie, DUW â thaledigaeth; efe a ddaw, ac a’ch achub chwi.

5Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir.

6Yna y llama y cloff fel hydd, ac y cân tafod y mudan: canys dyfroedd a dyr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.

7Y crastir hefyd fydd yn llyn, a’r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd; yn nhrigfa y dreigiau, a’u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn.

8Yna y bydd priffordd, a ffordd; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi: yr halogedig nid â ar hyd-ddi; canys hi a fydd i’r rhai hynny: a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant.

9Ni bydd yno lew, a bwystfil gormesol ni ddring iddi, ac nis ceir yno; eithr y rhai gwaredol a rodiant yno.

10A gwaredigion yr ARGLWYDD a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion â chaniadau, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help