Y Salmau 51 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 51I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba.

1Trugarha wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.

2Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.

3Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron.

4Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.

5Wele, mewn anwiredd y’m lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.

6Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.

7Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira.

8Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.

9Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.

10Crea galon lân ynof, O DDUW; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn.

11Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.

12Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi.

13Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.

14Gwared fi oddi wrth waed, O DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.

15 ARGLWYDD, agor fy ngwefusau, a’m genau a fynega dy foliant.

16Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.

17Aberthau DUW ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi.

18Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem.

19Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help