1Molwch yr ARGLWYDD. Molwch DDUW yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
2Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
3Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn.
4Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.
5Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar.
6Pob perchen anadl, molianned yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
