1Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.
2Hysbysodd yr ARGLWYDD ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.
3Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein DUW ni.
4Cenwch yn llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
5Cenwch i’r ARGLWYDD gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm.
6Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr ARGLWYDD y Brenin.
7Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn.
8Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd
9O flaen yr ARGLWYDD; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
