1Cerwch gyfiawnder, y rhai ydych yn barnu’r ddaear: ystyriwch yr Arglwydd mewn daioni, a cheisiwch ef mewn puredd calon.
2Oblegid efe a geir gan y rhai ni themtiant ef; ac a ymddengys i’r rhai ni anghredant iddo.
3Canys meddyliau trofaus a ddidolant oddi wrth Dduw; eithr rhinwedd brofedig a gerydda’r ynfydion.
4Oherwydd nid â doethineb i enaid drygionus; ac ni chyfanhedda hi mewn corff caeth i bechod.
5Oblegid sanctaidd ysbryd addysg a ffy oddi wrth dwyll, ac a ymedy â meddyliau angall, ac a gystuddir lle y delo anwiredd.
6Canys ysbryd yn caru dyn yw doethineb, ac ni weryd hi yr hwn a gablo â’i wefusau: oblegid Duw sydd dyst o’i arennau ef, ac yn wir olygydd ei galon ef, ac yn gwrando ei ymadroddion ef.
7Oblegid Ysbryd yr Arglwydd a lanwodd y byd: a’r hwn sydd yn cynnal pob peth biau adnabod lleferydd;
8Am hynny ni chaiff yr hwn a ddywedo bethau anghyfiawn lechu; ac nid â’r farn a gosbo heibio iddo ef.
9Oblegid fe fydd ymofyn yng nghynghorion yr annuwiol; a’r Arglwydd a gaiff glywed ei eiriau ef, i gosbi ei anwireddau ef.
10Canys clust eiddigus sydd yn clywed y cwbl; ac ni bydd sŵn grwgnach yn guddiedig.
11Ymgedwch gan hynny rhag grwgnach di-fudd; ac arbedwch enllibio â’ch tafod: oherwydd nid â ymadrodd dirgel yn ofer; a’r genau a ddywedo gelwydd sydd yn lladd yr enaid.
12Na cheisiwch farwolaeth yn amryfusedd eich einioes; ac na thynnwch arnoch ddinistr â gweithredoedd eich dwylo:
13Oblegid ni wnaeth Duw farwolaeth; ac nid digrif ganddo ddinistr y byw;
14Canys efe a wnaeth bob peth i fod; a chenedlaethau’r byd yn iachol, heb fod meddyginiaeth ddinistriol ynddynt, na brenhiniaeth uffern ar y ddaear.
15Anfarwol hefyd yw cyfiawnder.
16Eithr rhai annuwiol a’i cyrchasant hi â’u dwylo, ac â’u hymadrodd: gan dybied ei bod hi yn garedig y dihoenasant hwy, a hwy a wnaethant gyfamod â hi, am eu bod yn haeddu bod yn gyfranogion ohoni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
