1A meibion y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus, Wele yn awr, y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di, sydd ry gyfyng i ni.
2Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst, ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo. Dywedodd yntau, Ewch.
3Ac un a ddywedodd, Bydd fodlon, atolwg, a thyred gyda’th weision. Dywedodd yntau, Mi a ddeuaf.
4Felly efe a aeth gyda hwynt. A hwy a ddaethant at yr Iorddonen, ac a dorasant goed.
5A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst, ei fwyell ef a syrthiodd i’r dwfr. Ac efe a waeddodd, ac a ddywedodd, Och fi, fy meistr! canys benthyg oedd.
6A gŵr DUW a ddywedodd, Pa le y syrthiodd? Yntau a ddangosodd iddo y fan. Ac efe a dorrodd bren, ac a’i taflodd yno; a’r haearn a nofiodd.
7Ac efe a ddywedodd, Cymer i fyny i ti. Ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd.
8A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd â’i weision, gan ddywedyd, Yn y lle a’r lle y bydd fy ngwersyllfa.
9A gŵr DUW a anfonodd at frenin Israel, gan ddywedyd, Ymgadw rhag myned i’r lle a’r lle: canys yno y disgynnodd y Syriaid.
10A brenin Israel a anfonodd i’r lle am yr hwn y dywedasai gŵr DUW wrtho, ac y rhybuddiasai ef, ac a ymgadwodd yno, nid unwaith, ac nid dwywaith.
11A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn; ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Oni fynegwch i mi pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel?
12Ac un o’i weision ef a ddywedodd, Nid oes neb, fy arglwydd frenin: ond Eliseus y proffwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di yng nghanol dy ystafell wely.
13Ac efe a ddywedodd, Ewch, ac edrychwch pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i’w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele, yn Dothan y mae efe.
14Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau, a llu mawr: a hwy a ddaethant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas.
15A phan gododd gweinidog gŵr DUW yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?
16Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt.
17Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A’r ARGLWYDD a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.
18A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a’u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus.
19Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt, Nid hon yw y ffordd, ac nid hon yw y ddinas: deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio. Ond efe a’u harweiniodd hwynt i Samaria.
20A phan ddaethant hwy i Samaria, Eliseus a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor lygaid y rhai hyn, fel y gwelont. A’r ARGLWYDD a agorodd eu llygaid hwynt; a hwy a welsant: ac wele, yng nghanol Samaria yr oeddynt.
21A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus, pan welodd efe hwynt, Gan daro a drawaf hwynt, fy nhad?
22Dywedodd yntau, Na tharo: a drewit ti y rhai a gaethiwaist â’th gleddyf ac â’th fwa dy hun? gosod fara a dwfr ger eu bron hwynt, fel y bwytaont ac yr yfont, ac yr elont at eu harglwydd.
23Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr: a hwy a fwytasant ac a yfasant; ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant at eu harglwydd. Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel.
24Ac wedi hyn Benhadad brenin Syria a gynullodd ei holl lu, ac a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria.
25Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria: ac wele, yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian, a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian.
26Ac fel yr oedd brenin Israel yn myned heibio ar y mur, gwraig a lefodd arno ef, gan ddywedyd, Achub, fy arglwydd frenin.
27Dywedodd yntau, Oni achub yr ARGLWYDD dydi, pa fodd yr achubaf fi di? Ai o’r ysgubor, neu o’r gwinwryf?
28A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? Hithau a ddywedodd, Y wraig hon a ddywedodd wrthyf, Dyro dy fab, fel y bwytaom ef heddiw; a’m mab innau a fwytawn ni yfory.
29Felly ni a ferwasom fy mab i, ac a’i bwytasom ef: a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall, Dyro dithau dy fab, fel y bwytaom ef: ond hi a guddiodd ei mab.
30A phan glybu y brenin eiriau y wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur; a’r bobl a edrychodd, ac wele, sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn.
31Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo DUW i mi, ac fel hyn y chwanego, os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw.
32Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?
33Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD; paham y disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD mwy?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.