1Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint.
2Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili.
3Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid.
4Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth-rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.
5Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.
6Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a’m hyfrydwch!
7Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a’th fronnau i’r grawnsypiau.
8Dywedais, Dringaf i’r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn-ganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;
9A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.
10Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.
11Tyred, fy anwylyd, awn i’r maes, a lletywn yn y pentrefi.
12Boregodwn i’r gwinllannoedd; edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau: yno y rhoddaf fy nghariad i ti.
13Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
