1Y dialwr a gaiff ddialedd gan yr Arglwydd; ac efe gan gadw a geidw ei bechodau ef mewn cof.
2Maddau i’th gymydog y cam a wnaeth efe â thi; ac yna, pan weddïech di, y maddeuir dy bechodau dithau.
3Dyn a ddeil ddig wrth ddyn; ac a gais efe gan yr Arglwydd feddyginiaeth?
4Ni thrugarha efe wrth ddyn cyffelyb iddo ei hun; ac a ymbil efe dros ei bechodau ei hun?
5Os efe nid yw ond cnawd a ddeil ddig, pwy a ymbil am faddeuant o’i bechodau ef?
6Cofia’r diwedd, a phaid â dal galanastra; cofia lygredigaeth a marwolaeth, ac aros wrth y gorchmynion.
7Cofia y gorchmynion, ac na ddal ddig wrth dy gymydog: cofia gyfamod y Goruchaf, ac nac edrych ar anwybodaeth.
8Ymgadw rhag cynnen, a thi a wnei yn llai dy bechodau; oblegid gŵr dicllon a gynnau gynnen.
9Gŵr pechadurus a dralloda gyfeillion, ac a wna ymryson rhwng rhai heddychol.
10Fel y byddo defnydd y tân, felly y llysg efe; ac fel y byddo cryfder dyn, y bydd ei ddigofaint ef; ac yn ôl cyfoeth dyn y cyfyd ei lid ef; a pho cryfaf fo y rhai sy’n ymryson, mwyaf y cynnau eu llid hwynt.
11Y mae ymryson prysur yn cynnau tân; ac ymladd prysur yn tywallt gwaed.
12Os chwythi di wreichionen, hi a gynnau; ond os poeri di arni, hi a ddiffydd: ac y mae’r ddau yn dyfod o’r genau.
13Melltithiwch yr athrodwr a’r daudafodiog: oblegid llawer un heddychlon a ddifethasant hwy.
14Tafod dauddyblyg a gynhyrfodd lawer, ac a’u gwasgarodd hwynt o genedl i genedl: dinasoedd cedyrn a ddinistriodd efe hefyd, a theiau pendefigion a ddifethodd efe.
15Tafod dauddyblyg a fwriodd wragedd rhinweddol allan, ac a’u diddymodd hwynt o’u llafur.
16Yr hwn a wrandawo arno ef ni chaiff fyth orffwystra, ac ni phreswylia yn llonydd.
17Dyrnod ffrewyll a wna glais; a dyrnod tafod a dyr yr esgyrn.
18Llawer a syrthiasant oherwydd min y cleddyf: ond nid cymaint ag a syrthiasant oblegid y tafod.
19Gwyn ei fyd yr hwn a amddiffynnwyd rhagddo, ac nid aeth yn ei ddigofaint ef; yr hwn ni thynnodd ei iau ef, ac ni rwymwyd â’i rwymau ef:
20Oblegid iau haearn yw ei iau ef, a rhwymau pres yw ei rwymau ef;
21Marwolaeth ddrwg yw ei farwolaeth ef; a mwy buddiol yw y bedd nag ef.
22Ni chaiff efe lywodraeth ar y rhai duwiol; ac ni losgir hwynt yn ei fflam ef.
23Y rhai sydd yn gadael yr Arglwydd a syrthiant iddo; ac ynddynt hwy y llysg efe heb ddiffoddi: efe a yrrir arnynt hwy fel llew, ac fel llewpard y difa efe hwynt.
24Edrych ar gau ohonot dy dyddyn â drain; a rhwym i fyny dy arian a’th aur:
25A phwysa dy eiriau mewn clorian, a gwna i’th enau ddôr a chlo.
26A gochel rhag llithro ohonot trwyddo, a rhag syrthio ohonot o flaen y cynllwynwr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
