1Na ddal eiddigedd wrth wraig dy fynwes, ac na ddysg iddi addysg ddrwg yn dy erbyn dy hun.
2Na ddod dy hunan i wraig, i fyned ohoni yn uwch na thi.
3Na ddos i gyfarfod â gwraig buteinig, rhag i ti un amser syrthio yn ei maglau hi.
4Na fydd yn fynych gyda chantores, rhag dy ddal trwy ei chelfyddyd hi.
5Na chraffa ar forwyn, rhag dy dramgwyddo trwy’r pethau sy werthfawr ynddi.
6Na ddod dy enaid i buteiniaid, rhag colli ohonot dy etifeddiaeth.
7Nac edrych o amgylch mewn heolydd dinas, ac na wibia yn ei hanghyfaneddleoedd hi.
8Tro dy olwg oddi wrth wraig brydweddol, ac na ystyr degwch arall: oblegid llawer trwy degwch gwraig a gyfeiliornasant; a thrwy hyn y cynnau cariad fel tân.
9Na eistedd ddim gyda gwraig â gŵr iddi, ac na eistedd ddim â hi yn dy freichiau, ac na chydildia â hi mewn gwin, rhag pwyso o’th feddwl ati hi, a llithro ohonot, trwy dy chwant, i ddistryw.
10Na ad hen gyfaill; oblegid nid yw un newydd gystal ag ef: megis gwin newydd yw cyfaill newydd; os heneiddia efe, ti a’i hyfi yn llawen.
11Na chenfigenna wrth ogoniant pechadur: oblegid ni wyddost ti pa ddiwedd fydd iddo.
12Na fydded hoff gennyt yr hyn sydd hoff gan y rhai annuwiol: eithr cofia nad ânt hwy yn ddigerydd i’r bedd.
13Ymgadw ymhell oddi wrth ŵr ag awdurdod iddo i ladd, fel nad amheuech di ofn angau: ac os deui di ato ef, na wna fai, rhag iddo yn ebrwydd ddwyn ymaith dy einioes di: gwybydd mai ymysg maglau yr ydwyt yn tramwy, ac mai ar binaclau’r ddinas yr ydwyt yn rhodio.
14Bwrw yr amcan gorau y gallech am dy gymydog; ac ymgynghora â’r doethion.
15Bydded dy ymresymiad di â’r synhwyrol, a’th holl ymddiddan yng nghyfraith y Goruchaf.
16Bydded gwŷr cyfiawn yn cydwledda â thi, a bydded dy orfolled di yn ofn yr Arglwydd.
17Trwy law y gweithiwr y canmolir gwaith, a doeth dywysog pobl yn ei ymadrodd.
18Ofnadwy yn ei ddinas yw gŵr siaradus; a’r rhy brysur yn ei ymadrodd a gaseir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
