1Er mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi.
2A’r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr ARGLWYDD.
3Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr ARGLWYDD, ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy DDUW.
4Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr ARGLWYDD yn dy hoffi, a’th dir a briodir.
5Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac â llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy DDUW o’th blegid di.
6Ar dy furiau di, Jerwsalem, y gosodais geidwaid, y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad: y rhai ydych yn cofio yr ARGLWYDD, na ddistewch,
7Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhao, ac hyd oni osodo Jerwsalem yn foliant ar y ddaear.
8Tyngodd yr ARGLWYDD i’w ddeheulaw, ac i’w fraich nerthol, Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion; a meibion dieithr nid yfant dy win, yr hwn y llafuriaist amdano:
9Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt, ac a foliannant yr ARGLWYDD; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoedd fy sancteiddrwydd.
10Cyniweiriwch, cyniweiriwch trwy y pyrth: paratowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; digaregwch hi: cyfodwch faner i’r bobloedd.
11Wele, yr ARGLWYDD a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear, Dywedwch wrth ferch Seion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef, a’i waith o’i flaen.
12Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd, yn Waredigion yr ARGLWYDD: tithau a elwir, Yr hon a geisiwyd, Dinas nis gwrthodwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
