Exodus 30 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwna hefyd allor i arogldarthu arogldarth: o goed Sittim y gwnei di hi.

2Yn gufydd ei hyd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o’r un.

3A gwisg hi ag aur coeth, ei chefn a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.

4A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i’w dwyn hi arnynt.

5A’r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur.

6A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.

7Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore: pan daclo efe y lampau, yr arogldartha efe.

8A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogldarthed arni arogl-darth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD, trwy eich cenedlaethau.

9Nac offrymwch arni arogl-darth dieithr, na phoethoffrwm, na bwyd-offrwm; ac na thywelltwch ddiod-offrwm arni.

10A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau: sancteiddiolaf i’r ARGLWYDD yw hi.

11A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r ARGLWYDD, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.

13Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr: ugain gera yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r ARGLWYDD.

14Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i’r ARGLWYDD.

15Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i’r ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

16A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

17A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

18Gwna noe bres, a’i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: a dod ynddi ddwfr.

19A golched Aaron a’i feibion ohoni eu dwylo a’u traed.

20Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.

21Golchant eu dwylo a’u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i’w had, trwy eu cenedlaethau.

22Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

23Cymer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau;

24Ac o’r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden.

25A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe.

26Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,

27Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth.

28Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed.

29A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.

30Eneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi.

31A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau.

32Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.

33Pwy bynnag a gymysgo ei fath, a’r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

34Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un.

35A gwna ef yn arogl-darth aroglber o waith yr apothecari, wedi ei gyd-dymheru, yn bur ac yn sanctaidd.

36Gan guro cur yn fân beth ohono, a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi.

37A’r arogl-darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r ARGLWYDD.

38Pwy bynnag a wnêl ei fath ef, i arogli ohono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help