Y Salmau 19 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 19I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant DUW; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef.

2Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth.

3Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.

4Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt;

5Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.

6O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef.

7Cyfraith yr ARGLWYDD sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr ARGLWYDD sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.

8Deddfau yr ARGLWYDD sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr ARGLWYDD sydd bur, yn goleuo y llygaid.

9Ofn yr ARGLWYDD sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr ARGLWYDD ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.

10Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl.

11Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer.

12Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.

13Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer.

14Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help