1Yr hwn a gyffyrddo â phyg, a halogir ganddo; a’r hwn a fyddo gyfrannog â’r balch, a fydd debyg iddo.
2Na chyfod faich rhy drwm i ti yn dy fywyd; ac na fydd gyfrannog ag un cryfach a chyfoethocach na thi: canys pa gyfrannu a wna’r crochan pridd â’r pair? hwn a dery, a hwnnw a dyr.
3Os y cyfoethog a wna gam, yna yr ymbilir ag ef; os tlawd a wna gam, yna y bygythir ef.
4Os buddiol fyddi di, efe a gymer dy waith di; ac os bydd eisiau arnat, efe a’th gystuddia.
5Os bydd peth gennyt, efe a fydd byw gyda thi, ac a’th dloda di, ac ni bydd gwaeth ganddo ef.
6Os bydd arno dy eisiau di, efe a’th dwylla di, ac a chwardd arnat, ac a rydd i ti obaith: efe a ddywed yn deg wrthyt, ac a ddywed, Beth sydd arnat ti ei eisiau?
7Efe a’th gywilyddia di â’i fwyd, nes iddo dy ddihysbyddu di ddwywaith neu dair; ac yn y diwedd efe a’th watwar: wedi hynny, pan y’th welo, efe a’th ad di, ac a ysgwyd ei ben arnat.
8Gochel dy dwyllo yn dy feddwl, ac na’th ddarostynger yn llawenydd dy galon.
9Pan y’th wahoddo gŵr galluog, cilia ymaith; ac efe a’th wahodd yn fwy o hynny:
10Na phwysa arno, rhag dy yrru allan yn ddifarn; ac na saf ymhell, rhag dy ollwng dros gof:
11Nac ymgystadla ag ef mewn ymadrodd, ac nac ymddiried i’w aml eiriau ef: oblegid trwy ymadrodd lawer y prawf efe dydi, ac megis dan chwerthin y cais efe dy gyfrinach di.
12Anhrugarog yw, heb gadw ei eiriau; ac ni arbed efe dy ddrygu a’th garcharu di.
13Disgwyl, ac edrych yn fanwl am wrando: oherwydd yr wyt ti yn rhodio mewn perygl i syrthio: pan glywech hyn yn dy gwsg, deffro.
14Yn dy holl oes câr yr Arglwydd, a galw arno ef i’th iachawdwriaeth.
15Pob anifail a gâr ei gyffelyb; a phob dyn sy dda ganddo ei gymydog.
16Pob cnawd a ymgymhara wrth ei ryw; ac wrth ei gyffelyb y glŷn gŵr.
17Pa gyfeillach sy rhwng y blaidd a’r oen? felly rhwng y pechadur a’r duwiol.
18Pa heddwch sy rhwng yr hyena a’r ci? a pha heddwch rhwng y cyfoethog a’r tlawd?
19Yr asynnod gwylltion yn yr anialwch yw helfa’r llewod: porfa’r cyfoethogion yw’r tlodion.
20Ffieidd-dra’r beilchion yw gostyngeiddrwydd: felly y mae’r tlawd yn ffiaidd gan y cyfoethog.
21Pan siglo’r cyfoethog, ei gyfeillion a’i sicrhânt ef; ond pan syrthio’r tlawd, ei gyfeillion a’i gwthiant ef.
22Pan syrthio’r cyfoethog, fe a fydd iddo lawer cynorthwywr: pe dywedai efe bethau i’w celu, hwy a’i cyfiawnhânt ef: llithrodd y gwaelddyn, a cheryddwyd ef; efe a lefarodd yn ddoeth, ac ni roddid iddo le.
23Pan lefarai’r cyfoethog, pawb a dawai, ac a ddyrchafent ei ymadrodd ef hyd y cymylau: pan lefarai y tlawd, hwy a ddywedent, Pwy yw hwn? ac os tramgwyddai, hwy a’i dymchwelent ef.
24Da yw’r cyfoeth ni bo ynddo bechod; a drwg yw tlodi yng ngenau’r annuwiol.
25Calon dyn sydd yn newidio ei wyneb ef, pa un bynnag ai er da ai er drwg: calon lawen a wna wyneb siriol.
26Arwydd calon mewn gwynfyd yw wyneb llawen; a meddylfryd poenus yw cael allan ddamhegion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.