Eseciel 45 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, yr offrymwch i’r ARGLWYDD offrwm cysegredig o’r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch.

2O hyn y bydd i’r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongl oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch.

3Ac o’r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a’r lle sancteiddiolaf.

4Y rhan gysegredig o’r tir fydd i’r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cysegr, y rhai a nesânt i wasanaethu yr ARGLWYDD; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gysegrfa i’r cysegr.

5A’r pum mil ar hugain o hyd, a’r dengmil o led, fydd hefyd i’r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.

6Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenogaeth i’r ddinas, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig: i holl dŷ Israel y bydd hyn.

7A rhan fydd i’r tywysog o’r tu yma ac o’r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du y gorllewin tua’r gorllewin, ac o du y dwyrain tua’r dwyrain: a’r hyd fydd ar gyfer pob un o’r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.

8Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a’r rhan arall o’r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.

9Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd DDUW.

10Bydded gennych gloriannau uniawn, ac effa uniawn, a bath uniawn.

11Bydded yr effa a’r bath un fesur; gan gynnwys o’r bath ddegfed ran homer, a’r effa ddegfed ran homer: wrth yr homer y bydd eu mesur hwynt.

12Y sicl fydd ugain gera: ugain sicl, a phum sicl ar hugain, a phymtheg sicl, fydd mane i chwi.

13Dyma yr offrwm a offrymwch: chweched ran effa o homer o wenith; felly y rhoddwch chweched ran effa o homer o haidd.

14Am ddeddf yr olew, bath o olew, degfed ran bath a roddwch o’r corus; yr hyn yw homer o ddeg bath: oherwydd deg bath yw homer.

15Un milyn hefyd o’r praidd a offrymwch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd-offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd, i wneuthur cymod drostynt, medd yr Arglwydd DDUW.

16Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i’r tywysog yn Israel.

17Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd-offrwm, a diod-offrwm ar yr uchel wyliau, a’r newyddloerau, a’r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech-aberth, a bwyd-offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel.

18Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaith-gwbl, ac y puri y cysegr.

19Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech-aberth, ac a’i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn.

20Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o’r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ.

21Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch.

22A’r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech-aberth.

23A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i’r ARGLWYDD, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaith-gwbl, bob dydd o’r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech-aberth bob dydd.

24Bwyd-offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda’r effa.

25Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod; sef fel y pech-aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd-offrwm, ac fel yr olew.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help