Y Salmau 112 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 112

1Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr ARGLWYDD, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr.

2Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.

3Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.

5Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.

6Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.

7Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi-sigl, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.

8Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.

9Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.

10Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help